Graddfa maint moment

Difrod i Argae Shi Gang.

Defnyddir Graddfa maint moment (a dalfyrir o'r enw gwreiddiol arno, sef: moment magnitude scale ac a ddynodir fel MW) gan seismolegwyr i fesur maint daergrynfeydd yn nhermau'r ynni sy'n cael ei ryddhau ohono.[1] Caiff ei ddiffinio gan fformiwla lle mae'r foment seismig yn hafal i hyblygrwydd y Ddaear wedi'i luosi gyda swm y "llithro" a maint yr ardal a lithrodd. Datblygwyd y raddfa hon yn 1979 gan seismolegwyr o Caltech: Thomas C. Hanks a Hiroo Kanamori i ddisodli'r hen Raddfa Richter (ML). Y raddfa maint moment yw'r raddfa a ddefnyddir, bellach, drwy'r byd i fesur daeargrynfeydd o faint canolig neu uwch.

  1. "Gwefan Saesneg Journal of Geophysical Research" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-08-21. Cyrchwyd 2011-03-13.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne